Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac adran 187(2)(f) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, Cymru

 PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Llety Diogel”).

Mae’r diwygiad i’r diffiniad o “llety diogel” yn rheoliad 1 o’r Rheoliadau Llety Diogel i gynnwys llety diogel yn yr Alban yn cael effaith fel bod lleoli plentyn mewn llety diogel yn yr Alban gan awdurdod lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i’r un mesurau diogelwch sy’n gymwys i leoliadau yng Nghymru a Lloegr. Mae’r diwygiadau hyn yn ganlyniadol i’r diwygiadau a wneir i adran 25 o Ddeddf Plant 1989 gan adran 10 o Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1 iddi.

Caiff y diwygiad i baragraff (5) o reoliad 1 ei wneud o ganlyniad i ddwyn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) i rym. Caiff gwasanaethau llety diogel yng Nghymru eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 o 2 Ebrill 2018.

Mae’r diwygiad i reoliad 4 yn egluro pwy sy’n gallu gwneud cais am orchymyn llety diogel mewn achosion nad ydynt yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal fel y darperir ar eu cyfer gan reoliad 16.

Mae’r diwygiadau i reoliadau 6 a 7 yn egluro bod y cyfnodau hwyaf a nodir yn y ddau reoliad hynny yn gymwys i orchymyn gan y llys a wneir mewn perthynas â llety diogel yng Nghymru.

Mae’r diwygiad i reoliad 8 yn ganlyniadol i’r diwygiad i’r diffiniad o “llety diogel” yn rheoliad 1 ac yn egluro bod y cyfyngiad yn gymwys mewn perthynas â lleoli plant sy’n derbyn gofal.

Mae rheoliadau 9 a 12 wedi eu gwneud o dan y pŵer a roddir gan adran 27 o Ddeddf 2016.

Mae’r diwygiad i reoliad 15 yn egluro sut y mae’r ddarpariaeth yn gweithio ar gyfer lleoliadau gan awdurdodau lleol yn Lloegr i lety diogel yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac adran 187(2)(f) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, Cymru

 PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                             2 Ebrill 2018

 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 87, 119(2) a (7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]) a chan adrannau 27 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad yn unol ag adran 27(4) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ac wedi gosod copi o’r datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 27(5) o’r Ddeddf honno,

Yn unol ag adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac adran 187(2)(f) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cymhwyso, dehongli a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Llety Diogel” yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015([3]).

(4) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.

Diwygiadau i’r Rheoliadau Llety Diogel

2.(1)(1) Mae’r Rheoliadau Llety Diogel wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r rheoliad hwn.

(2) Ym mharagraff (4) o reoliad 1 (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn lle’r diffiniad o “llety diogel” rhodder—

ystyr “llety diogel” (“secure accommodation”), oni noda’r geiriad fod ei ystyr wedi ei gyfyngu i lety yng Nghymru, yw llety a ddarperir—

(a)   yng Nghymru at ddiben cyfyngu ar ryddid plant y mae’r meini prawf ym mharagraffau (a) neu (b) o adran 119(1) o’r Ddeddf yn gymwys iddynt,

(b)  yn Lloegr at ddiben cyfyngu ar ryddid plant y mae’r meini prawf ym mharagraffau (a) neu (b) o adran 25(1) o Ddeddf Plant 1989([4]) yn gymwys iddynt, neu

(c)   gan wasanaeth llety diogel yn yr Alban fel y diffinnir “secure accommodation service” ym mharagraff 6 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010([5]);.

(3) Yn lle paragraff (5) o reoliad 1 rhodder—

(5) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at gofrestru gwasanaeth llety diogel yng Nghymru neu at berson sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth o’r fath yn rheoliadau 8, 9 a 12 yn gyfeiriadau at gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([6]).

(4) Yn rheoliad 4 (ceisiadau i’r llys), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Ond pan fo rheoliad 16(1)(a) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i addasu adran 119 o’r Ddeddf gan wneud yr adran honno yn gymwys mewn perthynas â phlant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, y mae llety yn cael ei ddarparu iddynt neu’n cael ei drefnu ar eu cyfer gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg, yna ni chaniateir ceisiadau i lys ond gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n darparu neu’n trefnu’r llety, neu gan yr awdurdod lleol sy’n trefnu’r llety.

(3) Pan fo rheoliad 16(1)(b) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i addasu adran 119 o’r Ddeddf gan wneud yr adran honno yn gymwys mewn perthynas â phlant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, y mae llety yn cael ei ddarparu iddynt mewn ysbyty annibynnol neu gartref gofal, yna ni chaniateir ceisiadau i lys ond gan yr ysbyty annibynnol neu’r cartref gofal sy’n darparu’r llety.

(5) Yn rheoliad 6 (cyfnodau hwyaf awdurdodiad gan y llys)—

(a)     ym mharagraff (1)—

                           (i)    ar ôl “baragraff (2)” mewnosoder “o’r rheoliad hwn a rheoliad 7”;

                         (ii)    ar ôl “llety diogel” mewnosoder “yng Nghymru”; a

(b)     ym mharagraff (2) ar ôl “llety diogel” mewnosoder “yng Nghymru”.

(6) Ym mharagraff (1) o reoliad 7 (cyfnod hwyaf awdurdodiad ar gyfer plant sydd ar remánd), ar ôl “llety diogel” mewnosoder “yng Nghymru”.

(7) Yn lle rheoliad 8 (lleoliad mewn cartref plant sydd wedi ei gofrestru), rhodder—

8. Ni chaiff awdurdod lleol ond lleoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn llety diogel—

(a)   a ddarperir yng Nghymru gan wasanaeth llety diogel y mae’r darparwr wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef,

(b)  mewn cartref yn Lloegr sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid, neu

(c)   a ddarperir gan wasanaeth llety diogel yn yr Alban.

(8) Yn lle pennawd rheoliad 8 rhodder “Lleoli mewn lleoliad rheoleiddiedig”.

(9) Yn lle rheoliad 9 (dyletswydd i roi gwybodaeth am leoliad mewn llety diogel) rhodder—

9.—(1) Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn mangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth llety diogel gan berson ac eithrio’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, rhaid i’r person sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr sy’n gofalu am y plentyn fod y plentyn wedi ei leoli yno o fewn 12 awr i’r lleoliad ddechrau.

(2) Rhaid i’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr sy’n gofalu am y plentyn gadarnhau wedyn wrth y person cofrestredig—

(a)   ei awdurdodiad i gadw’r plentyn mewn llety diogel;

(b)  cyfnod yr awdurdodiad;

(c)   manylion unrhyw orchymyn a wneir gan lys sy’n awdurdodi’r lleoliad.

(10) Yn lle rheoliad 12 (cofnodion sydd i’w cadw mewn perthynas â phlentyn mewn llety diogel mewn cartref plant) rhodder—

12. Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn mangre yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth llety diogel, rhaid i’r personau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety diogel mewn cysylltiad â’r fangre honno gynnal cofnod ar gyfer y plentyn hwnnw, sy’n cynnwys y canlynol—

(a)   enw, dyddiad geni a rhyw y plentyn hwnnw;

(b)  manylion y gorchymyn gofal neu ddarpariaethau statudol eraill y lleolir y plentyn yn y fangre y darperir gwasanaeth llety diogel ynddi yn ei rinwedd neu yn eu rhinwedd;

(c)   manylion yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr sy’n lleoli’r plentyn ac enw’r swyddog awdurdodi;

(d)  dyddiad ac amser dechrau’r lleoliad mewn llety diogel;

(e)   y rheswm dros y lleoliad;

(f)   cyfeiriad y man lle’r oedd y plentyn yn byw cyn y lleoliad;

(g)  enwau a manylion perthnasol y personau a hysbysir yn rhinwedd rheoliad 5 ynghylch lleoliad y plentyn;

(h)  manylion unrhyw orchmynion llys a wneir mewn cysylltiad â’r plentyn o dan adran 119 o’r Ddeddf;

(i)   manylion adolygiadau a gynhelir o dan reoliad 11;

(j)   dyddiad ac amser unrhyw gyfnodau pan yw’r plentyn o dan glo ar ei ben ei hun mewn unrhyw ystafell ac eithrio ei ystafell wely yn ystod oriau gwely arferol, enw’r person sy’n awdurdodi gweithredu felly, y rheswm dros wneud hynny, a’r dyddiad a’r amser y mae’r plentyn yn peidio â bod o dan glo yn yr ystafell honno;

(k)  dyddiad ac amser rhyddhau’r plentyn o’r llety diogel a chyfeiriad y plentyn ar ôl ei ryddhau o’r llety diogel.

(11) Ym mhennawd rheoliad 12, yn lle “cartref plant” rhodder “lleoliad rheoleiddiedig”.

(12) Ym mharagraff (1) o reoliad 15 (plant dan gadwad y mae adran 119 yn gymwys iddynt gydag addasiadau: plant dan gadwad o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984), ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”.

 

 

 

 

 

 

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           2014 dccc 4.

([2])           2016 dccc 2.

([3])           O.S. 2015/1988 (Cy. 298).

([4])           1989 p. 41.

([5])           Mae paragraff 6 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8) yn diffinio “secure accommodation service” fel gwasanaeth sydd (a) yn darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid plant mewn mangreoedd preswyl lle y darperir gwasanaethau gofal; a (b) wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion yr Alban at y diben hwnnw.

 

([6])           2016 dccc 1.